Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mai 2020
Amser:
12.30 -
13.26
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol ar gyfer eu cyhoeddi.
Adborth o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf
Cytunodd y Rheolwyr Busnes fod cyflymder y cyfarfod wedi gwella llawer, oherwydd y terfynau amser newydd ar gyfer cyfraniadau ar ddatganiadau.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynyddu nifer yr Aelodau Plaid Cymru i 5 er mwyn rhoi gwell adlewyrchiad o faint cymharol grwpiau. Fel arall, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddilyn yr un fformat a gweithdrefnau ar gyfer cyfarfod yr wythnos hon.
Mewn ymateb i gais gan Sian Gwenllian, cytunodd y Llywydd i ystyried a ddylid galw Aelodau am yn ail i ofyn cwestiynau ar ddatganiadau. Nododd Darren Millar ei fod yn gwrthwynebu unrhyw newid.
Cwestiynau Amserol
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn gwneud penderfyniad ar unrhyw gwestiynau amserol a gyflwynir yr wythnos hon cyn gynted â phosibl ar ôl y terfyn amser am 6.00pm, ac y bydd yr Aelodau a'r llywodraeth yn cael eu hysbysu'r noson honno.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd y Cwestiynau Amserol ar ôl datganiad y Prif Weinidog. Bydd unrhyw Weinidogion sy'n bresennol i ateb cwestiynau amserol yn unig yn ychwanegol at ddyraniad arferol Llafur / llywodraeth.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â gofyn unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion am bapur ar opsiynau ar gyfer datblygu busnes y Cyfarfod Llawn dros yr wythnosau nesaf.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod dwy set o reoliadau wedi'u hychwanegu at Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 20 Mai 2020
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (30 Munud)
· Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020 (15 munud)
Cytunodd y Pwyllgor i drefnu Cwestiynau Amserol bob wythnos am y dyfodol agos.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynnig a chytunwyd mai'r Pwyllgor Busnes yw'r fforwm priodol i werthuso'r ffyrdd mwyaf effeithiol o barhau i graffu yn y sefyllfa bresennol. Daethant i'r casgliad hefyd mai'r defnydd gorau o amser y Cyfarfod Llawn ar hyn o bryd yw craffu ar faterion Covid-19. Felly ni fyddent yn trefnu amser i drafod y cynnig.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a chytuno ar ddyddiad cau ar gyfer adrodd yn ddiweddarach.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Diogelwch Tân i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 18 Mehefin 2020.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef dydd Iau 14 Mai, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef dydd Iau 14 Mai, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar Reoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020.
Trafododd y Rheolwyr Busnes yr amserlen ddrafft ar gyfer y pwyllgorau, a chytuno arni.
Cwestiynau Ysgrifenedig
Cododd Darren Millar y mater o oedi parhaus wrth gael ymatebion y llywodraeth i gwestiynau ysgrifenedig, er y bu rhywfaint o welliant yn sylwedd yr ymatebion.
Newid enw
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yr ohebiaeth, o ystyried yr amgylchiadau, yn tynnu sylw ac y bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi fore Mercher.